#
Briff ymchwil:
Rhif y ddeiseb: P5-05-713 Teitl y ddeiseb: The Wildlife Warriors Testun y ddeiseb: Mae Fforwm Iau Caerffili yn gweithio gyda phlant 7-11 oed ym mwrdeistref Caerffili i roi llais i blant am faterion sydd o bwys i blant. Bob blwyddyn mae’r Fforwm Iau yn nodi pwnc blaenoriaeth i roi sylw iddo. Y flaenoriaeth ar gyfer 2015-2016 yw gwarchod cynefin naturiol bywyd gwyllt. Mae aelodau’r Fforwm Iau yn credu y dylai fod gan bob ysgol gynradd yng Nghymru glwb amgylchedd o’r enw’r "Wildlife Warriors" i gynorthwyo i warchod amgylchedd naturiol ein bywyd gwyllt. Byddai’r clwb hwn: § yn wahanol i ecobwyllgorau ysgolion gan y byddai unrhyw un o unrhyw oedran yn cael ymuno. Ni fyddai angen i blant gael eu hethol i fod yn y clwb. § yn weithredol trwy’r flwyddyn er mwyn cynorthwyo i warchod bywyd gwyllt. § yn weithgar yn eu cymuned ac yn gwneud gweithgareddau ymarferol i gynorthwyo i warchod bywyd gwyllt. Gallai’r gweithgareddau hyn gynnwys glanhau afonydd, adeiladu cartrefi i fywyd gwyllt, plannu blodau a choed. § yn hyblyg er mwyn i wahanol bobl allu ymuno ar wahanol adegau |
Cyflwyniad
Mae aelodau Fforwm Iau Caerffili yn galw ar i bob ysgol gynradd yng Nghymru ffurfio clwb amgylchedd o’r enw "Wildlife Warriors” i helpu i warchod amgylchedd naturiol ein bywyd gwyllt. Fodd bynnag, nid yw’r Fforwm yn nodi ym mha ffordd y dylid cyflawni hyn na phwy mae’n galw arno i weithredu.
Yn ôl Rhestr Gyfredol Ysgolion Llywodraeth Cymru, a ddiweddarwyd ar 26 Medi 2016, mae 1,292 o ysgolion cynradd a gynhelir yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae Canllaw ar y Gyfraith i Lywodraethwyr Ysgol yn nodi’r gwahanol gyfrifoldebau o ran addysg ac ysgolion. ‘Cynhelir’ ysgolion gan awdurdodau lleol, sy’n golygu bod gan awdurdod fuddiant o ran sicrhau bod yr ysgolion yn cael eu llywodraethu a’u rheoli’n dda a bod yr ysgolion yn ardal yr awdurdod, yn gyffredinol, yn darparu yn effeithiol ac yn effeithlon. Cyrff llywodraethu sy’n gyfrifol am bennu nodau ac amcanion yr ysgol; cyfrifoldeb y prifathro yw rhedeg yr ysgol bob dydd.
Diwygio’r cwricwlwm
Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag ysgolion i ddatblygu Cwricwlwm Cymru newydd, yn dilyn adolygiad annibynnol yr Athro Graham Donaldson o drefniadau cwricwlwm ac asesu yng Nghymru. Mae’r cwricwlwm newydd i fod yn barod i ysgolion ei ddefnyddio yn 2018 a chael ei gyflwyno’n llawn yn 2021. Bydd yn disodli’r cwricwlwm cenedlaethol a sefydlwyd yng Nghymru a Lloegr yn 1988.
Argymhellodd yr Athro Donaldson y dylai’r cwricwlwm gael ei lunio ar sail pedwar diben, ac un o’r rhain yw y dylai pobl ifanc, wrth adael yr ysgol, fod yn ‘ddinasyddion moesegol, gwybodus’ sy’n dangos eu hymrwymiad i gynaliadwyedd y blaned’.
Mae Atodiad A yn cynnwys trosolwg byr o’r gofynion statudol presennol ar gyfer y cwricwlwm mewn ysgolion a gynhelir.
Polisïau cynaliadwyedd Llywodraeth Cymru
Sefydlodd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2016 saith ‘nod er llesiant’ y gofynnir i gyrff cyhoeddus (gan gynnwys Gweinidogion Cymru a phob awdurdod lleol) weithio tuag atynt fel rhan o’u dyletswydd o ran datblygu cynaliadwy. Un o’r nodau er llesiant hyn yw ‘Cymru gydnerth’, a ddiffinnir yn y Ddeddf fel:
Cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd acecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid (er enghraifft newid yn yr hinsawdd). [fy mhwyslais i]
Mae Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, yn cyfeirio at y Nod er Llesiant hwn ac at Gynllun Adfer Natur Llywodraeth Cymru. Mae un o amcanion y cynllun hwn yn canolbwyntio ar ennyn a chefnogi cyfranogiad a dealltwriaeth o fioamrywiaeth drwy, er enghraifft (fel y mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn cyfeirio), ‘addysg a hyfforddiant mewn ysgolion, colegau a chynlluniau trosglwyddo gwybodaeth’.
Y cynllun Eco-sgolion presennol
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet: ‘[I] would see the Wildlife Warriors initiative as closely complementing our existing Eco-Schools Programme’, sy’n ‘designed to be a pupil-led scheme that involves the whole school’.
Rhaglen ryngwladol yw Eco-sgolion. Cadwch Gymru’n Daclus sy’n ei rhedeg yng Nghymru ac fe’i hariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae’r rhaglen yn rhedeg mewn ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd. Mae 97% o ysgolion Cymru wedi cofrestru ar y rhaglen, gan gynnwys pob ysgol ym Mwrdeistref Sirol Caerffili. Cyhoeddodd Cadwch Gymru’n Daclus ym mis Mehefin 2015 i £2.7 miliwn gael ei ddyfarnu iddo i ‘barhau ac adeiladu ar ei waith yng Nghymru dros y ddwy flynedd a hanner nesaf’.
Dywed Cadwch Gymru’n Daclus i’r rhaglen gael ei chynllunio i gael ei rhedeg gan y disgyblion eu hunain, gydag oedolyn yn gydlynydd i weithredu fel mentor a hwylusydd. Mae’r gymuned ehangach hefyd yn cael ei chynnwys drwy ddiwrnodau cyfranogi, ymgyrchu, cyfathrebu gweithredol a gweithredu. Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi darparu gwybodaeth i’r Gwasanaeth Ymchwil sy’n datgan:
The programme allows young people to lead the way and the combination of learning and actions make it an ideal way for schools to embark on a meaningful path to improving their school and their local communities, and for pupils to influence the lives of people and wildlife around them.
Mae’r rhaglen Eco-sgolion yn cwmpasu wyth maes pwnc ar draws ystod o faterion amgylcheddol a chynaliadwyedd: sbwriel; gwastraff; ynni; dŵr; byw’n iach; trafnidiaeth; dinasyddiaeth fyd-eang; a thiroedd ysgolion. Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn dweud: ‘many of the topics have either direct or indirect wildlife benefits’ a bod gan lawer o ysgolion ‘[an] environment club to help to protect the natural environment of local wildlife’.
Gall ysgolion wneud cais am wobrau sy’n cydnabod eu statws fel eco-ysgol ar un o bedair lefel: efydd, arian, aur a phlatinwm.
Eco-bwyllgorau
Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi rhoi’r cyngor canlynol mewn perthynas ag Eco-bwyllgorau ysgolion.
The cornerstone of the [Eco-school awarding] process involves the setting up of an Eco committee which needs to:
• Represent the whole school
• Feed back to the rest of the school
• Have an element of democracy
Members of the Eco Committee are either voted on by their peers or some committees are made up of volunteers. The process [is] flexible to the needs of the school and the wishes of the pupils. Eco-Committees should also have representation from different areas of the school e.g. teachers, site manager/caretaker, catering staff, governors and PTA to make it as inclusive as possible.
Atodiad A: Gofynion statudol y cwricwlwm cyfredol
Mae Rhan 7 o Ddeddf Addysg 2002, fel y’i diwygiwyd, yn gosod gofynion statudol y cwricwlwm ysgol yng Nghymru.
Mae Adran 99 o’r Ddeddf yn datgan y dylai ysgol a gynhelir ddarparu cwricwlwm cytbwys a chanddo sylfaen eang sy’n bodloni’r ddau ofyniad cyffredinol canlynol:
a) hyrwyddo datblygiad ysbrydol, moesol, diwylliannol, meddyliol a chorfforol disgyblion a chymdeithas.
b) paratoi disgyblion at gyfleoedd, cyfrifoldebau a phrofiadau yn ddiweddarach yn eu bywydau.
Fel rhan o’r cwricwlwm sylfaenol, mae’n ofynnol i ysgolion a gynhelir ddarparu addysg bersonol a chymdeithasol, addysg sy’n gysylltiedig â gwaith o gyfnod allweddol 3 (o flwyddyn 7/11 oed ymlaen), ac addysg rhyw mewn ysgolion uwchradd. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu canllawiau anstatudol ar y cynnwys ond mae gan ysgolion ddisgresiwn o ran y ffordd y caiff yr agweddau hyn ar y cwricwlwm eu darparu. Y gofyniad arall yn y cwricwlwm sylfaenol yw cyflawni’r cwricwlwm cenedlaethol. Cynnwys rhagnodedig sydd yn y cwricwlwm cenedlaethol a rhaid i ysgolion a gynhelir ddilyn rhaglenni astudio ar gyfer pob pwnc.